It’s a 100 until the
Paralympics Games and the official launch of the Disability Sport Wales blog.
Jon Morgan, Executive Director of Disability Sport Wales shares his thoughts on
the importance of grassroots’ opportunities and our ambition to deliver further
opportunities for disabled people.
100 DAYS TO GO TO THE
PARALYMPIC GAMES – WE’RE READY - ARE YOU?
It’s a mouth watering prospect – just 100 days to go until
the Paralympic Games roll into London – just 100 days until the World’s best
paralympic athletes gather for 10 days of incredible action. In one sense we simply can’t wait for the
Games to start. In another, it’s the realisation that we now have only 100 days
to ensure that we fully maximise the opportunity that these Games will bring.
The reality of course is that here at Disability Sport Wales
we’ve been planning for the Games for a lot longer than just 100 days. In fact
our planning started on the 06 July 2005 – the day the Games were awarded to
‘the city of London’
Since that momentous announcement in Singapore we’ve been
focussed on what we want to achieve for disability sport in Wales. Perhaps you
could say we’ve been a bit selfish with our ambitions? But sometimes being
selfish, or put in another way ‘focussed’ is just what is needed to ensure that
you achieve what you want.
How many times have you heard the expression ‘the Games are
a unique once in a lifetime opportunity to create a lasting legacy for sport in
this country’. Well as far as I am concerned that statement is only partly
true. Yes, the Games are unique and yes, they will be a once in a lifetime opportunity.
But the Games alone can’t create the legacies we all so desperately want. Legacy
doesn’t just happen! Great legacy is something that is the result of vision and
a lot of hard work – and yes – perhaps a bit of selfish focus.
Our vision for a legacy has been founded on four key pillars
– the development of world class athletes, great community programmes which
reflect changing needs, new partnerships with different sectors and the ability
through the power of sport to inspire change in the way our society perceives
disability.
Let’s start with our
Welsh athletes. They are critical to our legacy plans. They are the starting
point because without them there simply would be no Games. Their increased
profile will help us to create a nation where the expectation is that every
child will be hooked on sport.
Their achievements on the field of play will undoubtedly
inspire the next generation of athletes. Along with Sport Wales we share in the
vision of a Wales where we continue to be recognised as a nation of paralympic
champions. We are already a proud and successful paralympic nation with a
fantastic track record of producing world class athletes, some of them
household names. Since the Beijing Games we have made huge efforts to ensure
that the Welsh conveyor belt of talent continues to operate at a fast pace, building
on our past successes by producing the next generation of talented athletes. The single ambition of our Academy programme
is to support as many athletes as is possible to be selected into the
ParalymicsGB team. At the moment, that ambition looks likely to be achieved.
And what of our community aspirations? Our grassroots
programme is now 10 years in the making and well established. We’re proud of
the fact that last year, together with our local authority partners we
delivered over 1 million opportunities for disabled people to play sport across
Wales. What we now need to do is to offer
more choice by creating a more inclusive sporting landscape where disabled
people can play sport more often, and in more locations. The power and
positivity of the Games will help our partners in the national governing
bodies, the clubs and local authorities realise that this aim is achievable. Our
‘insport’ programme has been designed to support this very aim and will be
rolled out across Wales later this year.
We know that our local authority partners are also busy,
preparing for the Games by developing a programme of events and activities to
mark this fantastic summer of sport. From Paralympic flame festivals to
multi-sport events and club promotions –the programme is packed and there’s
something for everyone to get involved with. Just visit our website www.disability-sport-wales.org
for more details on local events.
One of our key ambitions
is around developing new partnerships. We are already working with some
fantastic partners but there’s always room for more. Over the last two years we
have become involved with many new partners from the private sector who have
been inspired by 2012 to support us. Not only do they provide additional
resources in a very practical sense but they also give us the opportunity to
learn how ‘to do things differently’ as well as helping us to be more business like
in our approach to disability sport. Developing
these partnerships is a relatively new and important area of work for us. We
know that if we get it right the long term gains will be significant.
Our final ambition is around changing the way society feels about
disability sport and thereby disability in general. Never will we have a better
or more dynamic chance to present disability in a positive light. Through the
power of sport we can influence for the better the way people think feel and
behave toward disability. Perceptions, which all too often have been based on
ignorance and lack of awareness in the past, can be changed. This summer we can
challenge society to see the ability of people, not the disability.
So as the Paralympics ‘opening ceremony’ on
the 29TH August draws ever closer, so must our focus become even
sharper. The Games provide a real opportunity for us to take disability sport
to a new level in Wales. We’re ready to grasp that opportunity– the question is
– are you?
We would love to hear your
thoughts, follow us on twitter @dsw_news, using the #disabilitysportwales
hashtag.
100 DIWRNOD I FYND TAN Y GEMAU PARALYMPAIDD –
RYDYN NI’N BAROD – YDYCH CHI?
Mae’n tynnu dŵr o’r
dannedd – dim ond 100 diwrnod sydd i fynd nes bydd y Gemau Paralympaidd yn
cyrraedd Llundain – dim ond 100 diwrnod nes bydd athletwyr paralympaidd gorau’r
byd yn ymgynnull ar gyfer 10 niwrnod o gystadlu anhygoel. Ar un llaw, dydyn ni
ddim yn gallu disgwyl i’r Gemau gychwyn. Ar y llaw arall, rydyn ni’n sylweddoli
mai dim ond 100 diwrnod sydd gennym ni ar ôl i sicrhau ein bod ni’n gwneud y gorau
o bob cyfle a ddaw yn sgil y Gemau hyn.
Y realiti wrth
gwrs ydi ein bod ni yma yn Chwaraeon Anabledd Cymru wedi bod yn cynllunio ar
gyfer y Gemau ers llawer mwy na dim ond 100 diwrnod. Yn wir, fe ddechreuodd ein
gwaith cynllunio ni ar 06 Gorffennaf 2005 – y diwrnod y cyhoeddwyd y byddai’r Gemau’n
cael eu cynnal yn ‘ninas Llundain’.
Ers y cyhoeddiad
hollbwysig hwnnw yn Singapore, rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar yr hyn
rydyn ni eisiau ei gyflawni ar ran chwaraeon anabledd yng Nghymru. Efallai bod
modd i chi ddweud ein bod ni wedi bod braidd yn hunanol yn ein huchelgais? Ond
weithiau mae bod yn hunanol, neu o’i ddweud fel arall, yn llawn ffocws, yn gwbl
angenrheidiol er mwyn sicrhau eich bod chi’n cyflawni’r hyn rydych chi ei
eisiau.
Sawl gwaith ydych
chi wedi clywed yr ymadrodd ‘mae’r Gemau’n gyfle unigryw mewn oes i greu
treftadaeth barhaus i chwaraeon yn y wlad hon’? Wel, cyn belled ag yr ydw i yn
y cwestiwn, dim ond rhannol wir yw’r datganiad hwn. Mae’r Gemau, yn sicr, yn
unigryw ac maen nhw’n siŵr o fod yn gyfle unwaith mewn oes. Ond ni all y Gemau ar
eu pen eu hunain greu’r dreftadaeth rydyn ni’n dyheu cymaint amdani. Nid dim
ond digwydd mae treftadaeth! Mae treftadaeth wych yn ganlyniad i weledigaeth a
llawer iawn o waith caled – ac ie – ychydig o ffocws hunanol efallai.
Mae ein
gweledigaeth ni ar gyfer treftadaeth wedi cael ei sylfaenu ar bedair elfen
allweddol – datblygu athletwyr o safon byd, rhaglenni cymunedol gwych sy’n
adlewyrchu anghenion sy’n newid, partneriaethau newydd gyda sectorau amrywiol
a’r gallu drwy gyfrwng grym chwaraeon i ysbrydoli newid yn y ffordd y mae ein
cymdeithas ni’n edrych ar anabledd.
Beth am ddechrau
gyda’n hathletwyr ni yma yng Nghymru. Maen nhw’n rhan gwbl allweddol o’n
cynlluniau treftadaeth ni. Dyma’r man cychwyn oherwydd, hebddyn nhw, ’fyddai
dim Gemau o gwbl. Bydd eu proffil uwch yn ein helpu ni i greu cenedl ble mae
disgwyl i bob plentyn fod wedi gwirioni ar chwaraeon.
Bydd eu
cyflawniadau ar y maes chwarae yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr yn
sicr. Ochr yn ochr â Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n rhannu’r weledigaeth o Gymru
ble rydyn ni’n parhau i gael ein cydnabod fel cenedl o bencampwyr paralympaidd.
Rydyn ni eisoes yn genedl baralympaidd falch a llwyddiannus gydag enw da
rhagorol am gynhyrchu athletwyr o safon byd, gyda rhai ohonynt yn enwau
cyfarwydd iawn. Ers Gemau Beijing, rydyn ni wedi gwneud ymdrech fawr i sicrhau
bod Cymru’n parhau i gynhyrchu talentau un ar ôl y llall, gan adeiladu ar ein
llwyddiannau ni yn y gorffennol a chreu’r genhedlaeth nesaf o athletwyr
talentog. Yr unig uchelgais sydd gan ein rhaglen Academi ni yw cefnogi cymaint
o athletwyr ag y bo modd i gael eu dewis yn aelodau o dîm Paralympaidd PF. Ar
hyn o bryd, mae’n edrych yn debyg y byddwn ni’n cyflawni’r uchelgais
hwnnw.
A beth am ein
dyheadau cymunedol ni? Mae ein rhaglen ni ar lawr gwlad wedi’i sefydlu ers 10
mlynedd bellach. Rydyn ni’n falch o’r ffaith ein bod ni, y llynedd, ochr yn
ochr â’n partneriaid ni mewn awdurdodau lleol, wedi cyflwyno mwy nag 1 miliwn o
gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon ar hyd a lled Cymru. Yr hyn y
mae’n rhaid i ni ei wneud yn awr yw cynnig mwy o ddewis drwy greu tirlun
chwaraeon mwy cynhwysol ble gall pobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon yn
amlach ac mewn mwy o leoliadau. Bydd grym y Gemau a’r elfen gadarnhaol sy’n
perthyn iddyn nhw yn helpu ein partneriaid ni yn y cyrff rheoli cenedlaethol, y
clybiau a’r awdurdodau lleol i sylweddoli bod modd iddyn nhw gyflawni eu
hamcan. Mae ein rhaglen ‘insport’ wedi cael ei chynllunio i gefnogi’r amcan hwn
a bydd yn cael ei hehangu ledled Cymru yn nes ymlaen eleni.
Rydyn ni’n gwybod bod ein partneriaid ni yn yr
awdurdodau lleol yn brysur hefyd, yn paratoi ar gyfer y Gemau drwy ddatblygu
rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu’r haf rhagorol hwn o chwaraeon. O wyliau’r
fflam Baralympaidd i ddigwyddiadau aml-chwaraeon a gweithgareddau hybu clybiau
– mae’r rhaglen yn orlawn ac mae rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Ewch i’n
gwefan ni yn www.disability-sport-wales.org am ragor o fanylion a digwyddiadau
lleol.
Un uchelgais
allweddol sydd gennym ni yw datblygu partneriaethau newydd. Rydyn ni eisoes yn
gweithio gyda rhai partneriaid ffantastig ond mae lle i ragor o hyd. Yn ystod y
ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi ymwneud â llawer o bartneriaid newydd o’r
sector preifat sydd wedi cael eu hysbrydoli gan 2012 i’n cefnogi ni. Maen nhw
nid yn unig yn darparu adnoddau ychwanegol mewn ffordd ymarferol iawn ond hefyd
maen nhw’n cynnig cyfle i ddysgu sut ‘i wneud pethau’n wahanol’ a hefyd yn ein
helpu ni i feddwl mwy am fusnes yn ein dull ni o weithredu mewn perthynas â
chwaraeon anabledd. Mae datblygu’r partneriaethau hyn yn faes gwaith cymharol
newydd a phwysig i ni. Rydyn ni’n gwybod y bydd y manteision yn y tymor hir yn
sylweddol os byddwn ni’n gwneud hyn yn iawn.
Ein huchelgais
terfynol ni yw newid y ffordd y mae cymdeithas yn meddwl am chwaraeon anabledd
a thrwy hynny am anabledd yn gyffredinol. Ni chawn ni fyth well cyfle, na chyfle
mwy deinamig, i gyflwyno anabledd mewn golau cadarnhaol. Drwy rym chwaraeon,
gallwn ni ddylanwadu er gwell ar y ffordd y mae pobl yn meddwl am anabledd ac
yn ymddwyn tuag ato. Gellir newid canfyddiadau pobl, sydd wedi’u seilio’n
llawer rhy aml yn y gorffennol ar anwybodaeth a diffyg ymwybyddiaeth. Yr haf
hwn, fe allwn ni herio cymdeithas i weld yr hyn mae pobl yn gallu ei wneud, yn
hytrach na gweld eu hanabledd a’r hyn nad ydyn nhw’n gallu ei wneud.
Felly, wrth i
‘seremoni agoriadol’ y Gemau Paralympaidd ar y 29ain Awst nesau,
mae’n rhaid i’n ffocws ninnau gryfhau. Mae’r Gemau’n gyfle gwirioneddol i ni
fynd â chwaraeon anabledd i lefel newydd yng Nghymru. Rydyn ni’n barod i gydio
yn y cyfle – y cwestiwn ydi – ydych chi?